Mae asgellwr newydd y Scarlets, Sean Lamont, wedi rhybuddio y bydd yn dasg anodd curo Glasgow yn Firhill ddydd Sul.

“Mae’n mynd i fod yn anodd yn erbyn Glasgow, yn enwedig yn Firhill ar ôl iddyn nhw guro Munster,” meddai Lamont, sy’n gyn chwaraewr i’r clwb o’r Alban.

“Mae ganddyn nhw nifer o chwaraewyr rhyngwladol a digon o brofiad yn y garfan. Ond rwy’n gobeithio y gallwn ni ennill y gêm. Dyna’r peth pwysig, hyd yn oed pe bai hynny o ddim ond 3-0.”

Newyddion y tîm

Mae Nigel Davies wedi gwneud dau newid i’r tîm a gurodd Leinster ym Mharc y Scarlets.

Fe fydd y prop Deacon Manu yn cymryd lle Rhys Thomas, sy’n cael ei gosbi am drosedd yn erbyn Leinster, ac mae Dafydd Jones yn y rheng ôl yn lle Simon Easterby, sy’n dechrau ar y fainc.

Carfan y Scarlets

15 Daniel Evans, 14 Sean Lamont, 13 Rob Higgitt, 12 Jonathan Davies, 11 Mark Jones, 10 Rhys Priestland, 9 Martin Roberts.

1 Iestyn Thomas, 2 Ken Owens, 3 Deacon Manu, 4 Lou Reed, 5 Dominic Day, 6 Dafydd Jones, 7 Richie Pugh, 8 David Lyons.

Eilyddion – 16 Phil John, 17 Emyr Phillips, 18 Vernon Cooper, 19 Simon Easterby, 20 Lee Williams, 21 Dan Newton, 22 Gareth Maule.