Am y tro cynta’, mae pob ôl yr Unol Daleithiau wedi cofio am drychineb yr unfed ar ddeg o Fedi trwy gynnal diwrnod o wasanaeth.

Ar hyd a lled y wlad, fe fu pobol yn gwirfoddoli i wneud gwaith cymunedol a chymdeithasol – o baratoi pecynnau ar gyfer milwyr yn Boston i roi bwyd i’r anghenus yn Tennessee a Gorllewin Virginia.

Yn Boston hefyd, fe fu actores Charlie’s Angels, Cameron Diaz, yn helpu i blannu gerddi blodau o amgylch ysgol gynradd.

Yn ardal Canolfan Fasnach y Byd, lle cafodd bron 3,000 o bobol eu lladd yn ymosodiad Al Qaida, fe fu cofio mwy traddodiadol, gyda grwpiau gwirfoddol lleol yn ymuno gyda pherthnasau i ddarllen enwau’r rhai a gollwyd.

Llun: Cameron Diaz yn helpu yn Boston (Gwifren PA)