Mae papur newydd yn honni fod yr SAS yn rhoi hyfforddiant i luoedd arbennig y Cyrnol Gaddafi yn Libya.

Yn ôl y Daily Telegraph, swyddogion o fewn y gwasanaeth arbennig sydd wedi sôn wrthyn nhw am y cytundeb, gyda’r hyfforddi yn dechrau tua chwe mis yn ôl.

Os yw’r newyddion yn wir, fe fydd yn bwydo’r anghydfod tros ryddhau bomiwr Lockerbie i Libya y mis diwetha’ ac yn gwylltio pobol sy’n cyhuddo Libya o roi ffrwydron i’r IRA.

Mae’r papur yn honni fod swyddogion o fewn yr SAS yn anhapus gyda’r trefniant, gan ddweud ei fod yn rhan o’r cytundeb “cyfforddus” i ryddhau Abdulbaset al-Megrahi, y dyn oedd wedi’i gael yn euog o laddfa Lockerbie.

Blair a Brown?

Yr awgrym yw bod y syniad wedi codi pan fu’r cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, yn ymweld â Libya yn 2004 a bod y cytundeb wedi’i arwyddo wedyn gan ei olynydd, Gordon Brown.

Yn ystod y dyddiau diwetha’, mae’r Prif Weinidog wedi derbyn galwad ffôn gan Arlywydd yr Unol Daleithiau yn cwyno am ryddhau al-Megrahi.

Mae hefyd wedi addo helpu teuluoedd sy’n ceisio siwio Libya am anwyliaid a laddwyd gan yr IRA gyda ffrwydron Libyaidd.