Mae’n ymddangos y bydd tri therfysgwr honedig yn wynebu trydydd achos llys yn eu herbyn.
Mae rheithgor wedi methu ddwywaith i ddod i benderfyniad ar gyhuddiad eu bod yn rhan o gynllwyn i achosi ffrwydradau ar awyrennau rhwng gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau.
Ddechrau’r wythnos, fe gafwyd tri dyn arall yn euog o’r cynllwyn, ond dyma’r ail dro i’r achos fethu yn erbyn Ibrahim Savant, Arafat Waheed Khan a Waheed Zaman a oedd wedi eu cyhuddo o gynllwyn i lofruddio.
“Achos eithriadol”
Yn awr mae Keir Starmer, y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, wedi galw am achos arall gan ddweud fod gobaith realistig o lwyddo.
Roedd yn cydnabod mai’r confensiwn oedd rhoi’r gorau i erlyniad ar ôl dau achos aflwyddiannus, ond roedd yr amgylchiadau yma’n eithriadol, meddai. Roedd wedi ymgynghori a derbyn tystiolaeth gan y ddwy ochr cyn penderfynu, meddai.
Barn yr Erlynydd
“O ystyried pa mor ddifrifol yw’r cyhuddiad a’r budd cyhoeddus sylweddol iawn o gael y cyhuddiad wedi’i benderfynu un ffordd neu’r llall gan reithgor, rwyf wedi dod i’r casgliad, yn yr achos eithriadol yma, ei bod er lles y cyhoedd i geisio am achos arall.”