Mae prosiect ar dir uchel yng nghanolbarth Cymru yn ceisio ail-greu’r corsydd, rhosydd a’r hen goedlannau gwlyb a oedd yno yn Oes y Cerrig.
Un nod yw ceisio creu cynefinoedd a fydd yn gartref i’r wiwer goch, sydd wedi diflannu o’r rhan fwya’ o Gymru. Fe fydd llecynnau arbennig yn cael eu creu i’w hachub hi rhag pwysau gan yr wiwer lwyd.
Rhaglen Coedwigoedd Gwyllt Tywi yw cynllun diweddaraf y Comisiwn Coedwigaeth i gynyddu amrywiaeth bywyd gwyllt o fewn coedwigoedd Cymru.
Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar un safle 1,000 hectar – 2,400 o erwau – ger Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.
Mae coed coniffer yn cael eu torri ac arolwg wedi dechrau i ddod o hyd i’r ffordd orau o reoli’r ardal gyfan at ddibenion cadwraeth.
“Cyn gynted ag y byddwn wedi asesu cyflwr y tir, byddwn yn ystyried beth yw’r ffordd orau o ail-greu’r dirwedd fel y byddai wedi bod ychydig ar ôl Oes yr Iâ,” meddai James Tinney, rheolwr cadwraeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Gwarchod y wiwer goch
Er mwyn helpu’r wiwer goch, fe fydd y safle’n cael ei ailblannu gyda choed brodorol ac yn creu llain amddiffynnol i’w gwarchod rhag y gwiwerod llwyd.
Bydd draeniau tir yn cael eu cau er mwyn adfer tiroedd gwlyb – yn ogystal â denu rhagor o greaduriaid prin, fe allai hynny helpu i atal llifogydd yn is i lawr yr afon.
“Bydd y prosiect hwn yn parhau am ddegawdau, a bydd yn helpu’r cynefin i ddychwelyd yn raddol i’r hyn y byddai pan oedd dyn oes y cerrig yn byw yma,” meddai James Tinney.