Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru yn galw am roi’r gwasanaeth ambiwlans yn nwylo’r byrddau iechyd lleol newydd.
Yn ôl Helen Mary Jones mae angen chwalu’r gwasanaeth cenedlaethol a chael trefn fwy lleol er mwyn ceisio cyrraedd â thargedau galwadau brys.
“Mae sefydlu’r byrddau iechyd newydd trwy Gymru yn cynnig opsiwn ymarferol o ran dyfodol y gwasanaeth ambiwlans”, meddai.
Fe fyddai ail-strwythuro’r gwasanaeth yn lleihau’r fiwrocratiaeth a chostau rhedeg y gwasanaeth, meddai AC Llanelli, gan gynnwys y cyflog o £119,000 sy’n mynd i brif weithredwr y gwasanaeth.
Yn ôl Helen Mary Jones, mae’r system bresennol yn “rhy fawr ac yn rhy bell oddi wrth y bobol” ac mae wedi cael hen ddigon o amser i wella pethau.
Ymateb yn rhy araf
Yn ôl y ffigurau diweddara’, mae ambiwlansys yn llwyddo i gyrraedd 64% o alwadau brys o fewn wyth munud – y targed yw 65%.
Ond ddechrau’r haf, ar ôl blynyddoedd o fethu â chyrraedd y targed, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, ei bod wedi cael “llond bol” ar ateb cwestiynau am y gwasanaeth.
Mae’r problemau’n waeth mewn ambell ardal, gyda dim ond ychydig tros 40% o alwadau brys yn cael eu hateb o fewn wyth munud yn ardal Torfaen.