Fe gafodd dyn ei achub gan Wylwyr y Glannau ar ôl mynd yn sownd mewn mwd yn y Mwmbwls.

Fe gafodd Gwylwyr y Glannau Abertawe eu galw ychydig cyn pedwar o’r gloch y prynhawn ddoe, ar ôl i aelod o Glwb Hwylio’r Mwmbwls weld dyn mewn trafferthion tua hanner canllath allan, ger tafarn yr Antelope.

Fe wnaethon nhwthau alw ar dimau achub o’r Mwmbwls, Port Talbot a Phorth Tywyn i roi cymorth ond, ar ôl ei ryddhau, fe fu’n rhaid galw ar hofrennydd i’w gario i Ysbyty Treforys, Abertawe, am driniaeth.

Mae’n debyg fod y dyn yn diodde’ o broblemau iechyd

• Ddwyawr wedyn, fe fu’n rhaid i’r Gwylwyr alw am gymorth i gwch modur bychan oedd wedi taro rhywbeth o dan y dŵr yn aber afon Hafren. Fe aeth llong arall i helpu cyn i’r bad achub gyrraedd.