Mae un o weinidogion Plaid Cymru wedi rhybuddio arweinydd nesa’r Blaid Lafur yng Nghymru i beidio ag ymyrryd gyda chytundeb Cymru’n Un a’r llywodraeth glymblaid.
Fe ddywedodd Elin Jones wrth gynhadledd y Blaid y bydd cwestiynau’n codi ynglŷn â’r cytundeb os bydd Rhodri Morgan yn cadw’i addewid i ymddeol o fod yn Brif Weinidog adeg ei ben-blwydd yn 70 oed ar 29 Medi.
Yn ôl y Gweinidog tros Faterion Gwledig fe fydd angen i Blaid Cymru anwybyddu’r hyn sy’n digwydd o fewn y Blaid Lafur a chanolbwyntio ar anghenion Cymru.
“Fe fyddwn yn disgwyl i arweinydd newydd Llafur ddangos ymroddiad llawn i gyflawni Cymru’n Un. Mae hwnnw’n ddigyfnewid,” meddai Elin Jones.
Fe ddywedodd y gallai Plaid Cymru fod yn flaenllaw o fewn Llywodraeth Cymru am genhedlaeth a mwy.
“R’yn ni wedi cael y cyfle gan bobol Cymru i brofi eu bod yn gallu ymddiried ynon ni i reoli’r wlad.”