Mae’r Llew James Hook wedi cael ei ddewis i chwarae ei gêm gyntaf i’r Gweilch y tymor yma – yn erbyn Ulster nos yfory.

Fe fydd yn ymuno yn yr haneri gyda’r Llew arall, y mewnwr Mike Phillips, sydd eisoes wedi chwarae.

Bydd y Gweilch hefyd yn croesawu’r blaenasgellwr Jonathan Thomas yn ôl i’r garfan wedi saith mis allan o’r gêm gydag anaf.

“Mae’n wych gweld Jonathan Thomas yn ôl,” meddai hyfforddwr y Gweilch, Jonathan Humphreys. “Mae wedi bod yn gyfnod rhwystredig iawn iddo, ond mae e’ ar ei ffordd ‘nôl, sy’n newyddion da iawn”

Fe fydd y Llew o Wyddel, Tommy Bowe, ar y fainc am ei gêm gynta’ yntau tra BOD
Ryan Jones yn arwain o’r rheng ôl lle mae Marty Holah a Jerry Collins hefyd.

Mae Sonny Parker yn cael ei ddewis yn ganolwr yn lle Jonathan Spratt sydd yn cael gorffwys ar ôl dangos arwyddion o flinder wrth ymarfer yr wythnos hon.

Carfan y Gweilch

15 Barry Davies, 14 Jonny Vaughton, 13 Sonny Parker, 12 Andrew Bishop, 11 Nikki Walker, 10 James Hook, 9 Mike Phillips.

1 Paul James, 2 Richard Hibbard, 3 Cai Griffiths, 4 Ian Gough, 5 Andy Lloyd, 6 Jerry Collins, 7 Marty Holah, 8 Ryan Jones.

Eilyddion- 16 Huw Bennett, 17 Duncan Jones, 18 Jonathan Thomas, 19 Tom Smith, 20 Jamie Nutbrown, 21 Dan Biggar, 22 Tommy Bowe.