Mae Joe Ledley wedi gwrthod cytundeb newydd gyda Chaerdydd, gan gynyddu’r posibilrwydd y bydd yn gadael.

Mae chwaraewr canol cae Cymru ym mlwyddyn olaf ei gytundeb presennol, ac fe fydd hawl ganddo ymuno â chlwb arall am ddim yr haf nesaf.

Gyda Chaerdydd yn ei brisio tua £6m, maen nhw’n awyddus i gadw un o’u hasedau mwya’ ond fe allen nhw gael eu gorfodi i werthu er mwyn arbed rhywfaint o golled.

Mae Ledley eisoes wedi dweud ei fod am chwarae yn yr Uwch Gynghrair, ac mae’n denu diddordeb timau megis Everton, Hull a West Ham.

Ar hyn o bryd dyw Ledley ddim yn credu bod cynnig presennol yr Adar Glas yn ddigon da ond mae’r trafodaethau’n parhau.