Mae gwyddonwyr wedi darganfod tri gennyn newydd sy’n gysylltiedig ag achosi salwch Alzheimer.
Cafodd dau o’r genynnau eu darganfod gan dîm gwyddonol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cael ei harwain gan yr Athro Julie Williams, arbenigwraig ar enynnau niwroseicolegol sy’n dod o Ferthyr Tudful.
Cafodd y gennyn arall ei ddarganfod wedi i dîm yr Athro Williams gymharu eu hymchwil gydag ymchwil tîm Philippe Amouyel o Sefydliad Cenedlaethol Iechyd ac Ymchwilio Meddygol, Lille.
Roedd y ddau dîm wedi bod yn cymharu genynnau pobol oedd yn dioddef o’r salwch gyda genynnau pobol iach.
Cyn y darganfyddiad, un gennyn oedd yn cael ei gysylltu efo datblygiad Alzheimer’s.
Gobaith
Y gobaith yw y bydd y darganfyddiad yn arwain at ddatblygu gwell triniaeth i’r salwch ac, yn ôl yr Athro Williams, byddai darganfod sut i ddiddymu effeithiau gwael y genynnau yma yn arwain at leihau achosion o Alzheimer o 20%.
“Byddai hyn yn golygu arbed 100,000 o bobol rhag datblygu’r clefyd yn y Deyrnas Unedig yn unig”, meddai’r Athro Williams.
Roedd Prifysgolion eraill ar draws Prydain wedi cymryd rhan yn yr ymchwil, yn ogystal â sefydliadau eraill yn Ewrop ac America. Mae’r ymchwil wedi cael ei gyhoeddi yn Nature Genetics.
Mae tua 417,000 yn dioddef o glefyd Alzheimer yng ngwledydd Prydain, y rhan fwyaf yn dioddef o’r straen sy’n datblygu mewn pobol dros 65 oed.