Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedu cynhadledd Plaid Cymru yfory i brotestio yn erbyn cynnwys y Gorchymyn Iaith arfaethedig.

Yn ôl y Gymdeithas, fydd y Gorchymyn fel y mae ddim yn arwain tuag at hawliau ieithyddol cyflawn.

Maen nhw hefyd yn rhwystredig na fydd cwmnïau megis Tesco, Boots a Superdrug nac unrhyw siop stryd fawr arall yn cael eu cynnwys mewn deddf iaith yn sgil y Gorchymyn.

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynegi pryder gwirioneddol a yw Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud digon i ymestyn rhychwant y Gorchymyn Iaith i gynnwys mwy o’r sector preifat,”meddai Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd.

“Mae Alun Ffred Jones [Y Gweinidog Treftadaeth] yn deall yn iawn sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg, ac felly mae cyfrifoldeb mawr arno i weithredu’n bositif o blaid y Gymraeg.

“Yr her iddo yw deddfu er mwyn gwneud gwahaniaeth fel y mae deddfu wedi gwneud gwahaniaeth mewn meysydd eraill o anghydraddoldeb.”