Mae cynhadledd Plaid Cymru wedi pleidleisio dros osod uchafswm ar gyflogau penaethiaid cwmnïau.

Cafodd cynnig ei gyflwyno yng nghynhadledd y blaid yn Llandudno gan yr AS Adam Price a ddadleuodd bod yr economi bron â methu oherwydd diffyg rheolaeth o’r sector ariannol.

Plaid Cymru yw’r blaid wleidyddol gyntaf i gefnogi cynnig o’r fath, sy’n galw am gyfyngu cyflogau penaethiaid cwmnïau mewn perthynas â’r hyn y mae staff ar waelod y cwmni yn ei ennill.

Nod y cynnig yw sicrhau gwell cydbwysedd rhwng y penaethiaid a gweddill y staff a datgelwyd bod Plaid Cymru wedi gweithio gyda’r mudiad creu polisi, Compass, i lansio ymgyrch yn galw am gomisiwn i reoli cyflogau uchel.

“Mae’r cynnig wedi cael ei gynllunio i daclo’r arfer o geisio atebion cyflym heb fynd at wraidd y broblem”, meddai Adam Price.

“Mae’n gam positif bod Plaid Cymru wedi dangos y dewrder i fabwysiadu’r polisi, ac mae’n hen bryd i’r pleidiau eraill ddilyn eu hesiampl”, meddai Gavin Hayes, Ysgrifennydd Cyffredinol Compass.