Mae’r Cyngor ynghanol achos y Babi P mewn helynt et oar ôl anfon plentyn maeth i fyw gyda theulu’r dyn oedd yn arwain y cynllwyn terfysgol i ymosod ar awyrennau.

Yn ôl papur Llundain, yr Evening Standard, roedd Cyngor Haringey wedi gosod y plentyn gyda pherthnasau i Abdulla Ahmed Ali, sydd newydd ei gael yn euog o’r cynllwyn a allai fod wedi lladd miloedd.

Cadarnhaodd y cyngor bod y plentyn wedi byd gyda’r teulu cyn i swyddogion sylweddoli bod un o’r perthnasau’n derfysgwr.

Dywedodd y papur newydd bod y plentyn yn dal i fyw gyda’r teulu yn y tŷ yn Walthamstow adeg arestio Abdulla Ahmed Ali ym mis Awst 2006.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y plentyn wedi ei symud “yn syth” ar ôl i’r hynny a doedd y teulu ddim yn ofalwyr maeth i unrhyw blant o Haringey bellach.

Yr wythnos diwethaf cafwyd Abdulla Ahmed Ali, 28 oed, ac Assad Sarwar a Tanvir Hussain, yn euog o gynllwyn mawr i lofruddio trwy osod ffrwydron ar awyrennau rhwng gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau.