Fe fydd y cwmni gamblo 777ball.com o’r Philippines yn noddi clwb pêl-droed Caerdydd am o leia’r flwyddyn nesaf, ar ôl i’r Adar Glas ddechrau’r tymor gyda blaen y crys yn wag.

Mae’r cwmni yn gwneud eu harian o gemau a gamblo ar lein yn Asia, a daw’r buddsoddiad ar ôl i gadeirydd y clwb, Peter Ridsdale gynnal cyfres o gyfarfodydd yn y Dwyrain Pell dros y misoedd diwethaf.

Dyw maint y cytundeb ddim wedi ei ddatgelu, ond mae’r clwb wedi cyhoeddi mewn datganiad ei fod yn fwy nag unrhyw gytundeb tebyg o’r blaen.

“Rhannu uchelgais”

“Mae gan Gaerdydd a 777ball yr un uchelgais, ac rydym ni’n credu y gallai’r cytundeb fod yn llwyddiant i’r ddwy ochor,” meddai Steven Taylor, Prif Weithredwr 777ball.com.

Fe fydd enw’r noddwyr newydd ar grysau Caerdydd ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Newcastle yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul.

Mae Peter Ridsdale hefyd yn gobeithio y bydd modd denu mwy o fuddsoddiad o’r Dwyrain Pell, gyda thrafodaethau’n parhau gyda phobol yn Japan, Hong Kong, Malaysia a China.