Mae llanc 18 oed wedi ei garcharu am oes heddiw am lofruddiaeth greulon bydwraig ganol oed a roddodd loches iddo.

Ac fe ddywedodd cyn-ŵr Susan Williams ei bod yn ddigon posib mai hi oedd wedi helpu i ddod â David Matthews i’r byd.

Roedd hwnnw wedi trywanu’r wraig 58 oed o Gaerffili cyn stampio arni, ei tharo dros ei phen gyda sosban a hollti ei gwddw.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y fam-gu wedi darganfod ei llofrudd yn dwyn o’i thŷ yng nghanol y nos ar ôl iddi gymryd tosturi ar y llanc meddw digartre a rhoi lloches iddo.

Dywedodd ei chyn ŵr, Harry, fod y fydwraig wedi dod â mwy na 1,000 o fabanod i mewn i’r byd yn ystod ei gyrfa. “Yr eironi yw ei bod yn ddigon posib mai hi ddaeth â’i llofrudd i’r byd,” meddai.

“Fe wnaeth hi weithio’n galed trwy’i hoes ac fe helpodd hi i roi bywyd i lawer o fabanod ond fe gafodd ei bywyd hi ei chymryd oddi arni mewn modd dychrynllyd.”

Safodd Matthews, sydd hefyd o Gaerffili, yn ddideimlad wrth i’r Barnwr Roderick Evans ei ddedfrydu i fywyd yn y carchar.

Bydd rhaid iddo dreulio o leia’ 20 mlynedd yn y carchar cyn y caiff yr awdurdodau ystyried ei ryddhau.