Roedd gyrrwr lorri sydd wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gyn fos wedi ei garcharu ddwywaith yn yr Unol Daleithiau am ladradau arfog ac roedd yn torri ei barôl yno adeg y drosedd ddiweddara yn ardal Pontypŵl.

Dim ond ar ôl i’r achos ddechrau y cafodd yr awdurdodau yng ngwledydd Prydain wybod am y troseddau yn America – does dim rhaid i’r Unol Daleithiau roi gwybodaeth o’r fath am unigolion sy’n dod yma.

Bellach, fe gafodd Russell Carter, 52 oed, ei rybuddio ei fod yn wynebu carchar am oes am lofruddio Kingsley Monk yn safle cwmni Driverline 247, yn New Inn, Pontypŵl, fis Hydref diwethaf.

Fe’i cafwyd yn euog hefyd o geisio llofruddio tri o weithwyr eraill y cwmni – roedd wedi crogi Kingsley Monk, wedi trochi’r tri mewn petrol a rhoi’r adeilad ar dân.

“Ddim yn gyfrifol”

Dim ond ar ôl penderfyniad y rheithgor y cafodd y llys glywed am y troseddau yn yr Unol Daleithiau – amddiffyniad Russell Carter oedd ei fod yn euog o ddynladdiad yn hytrach na llofruddiaeth.

Yn ôl dadl ei dîm cyfreithiol, doedd e ddim yn gyfrifol am ei weithredoedd ei hunan oherwydd ei gyflwr meddwl a’i anhwylder personoliaeth.

Datgelwyd fod Russell Carter wedi cael magwraeth galed yn yr Unol Daleithiau, a’i fod wedi treulio cyfnod mewn ysbyty meddwl pan oedd yn blentyn.

Euog o ladrad arfog

Roedd y llys wedi ei syfrdanu ar ôl clywed am droseddau cynharach Russell Carter – dau ladrad gydag arfau yn yr Unol Daleithiau yn 1979 a 1985.

Mae’n ddinesydd Prydeinig ac Americanaidd, a daeth i Brydain yn 2000 ar ôl cael ei ryddhau ar barôl o ddedfryd carchar 20 mlynedd.

Mae’n rhaid i wledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd roi gwybod i’w gilydd am droseddau pobol sy’n symud o un i’r llall, ond dyw hynny ddim yn wir am wledydd o’r tu allan i Ewrop, fel yr Unol Daleithiau.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod yn chwilio am drefniant newydd gyda gwledydd o’r fath ond bod modd i wledydd roi gwybod am droseddau trwy Interpol.

Roedd Russell Carter hefyd wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio yn y Deyrnas Unedig flwyddyn ddiwethaf ar gyhuddiad o aflonyddu.