Mae cyfreithiwr blaenllaw wedi dweud fod cau marwdy Ysbyty Athrofaol Cymru dros dro yn golygu oedi mewn achosion llys ar gyfer troseddau difrifol.

Mae archwiliadau post-mortem wedi cael eu gwahardd yn yr ysbyty ers dechrau mis Awst, wedi i’r Awdurdod Meinwe Dynol ddarganfod diffygion difrifol mewn rheolaeth, adnoddau ac offer, ac yn safon yr adeilad.

Bellach mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i amgylchiadau yn y marwdy, i weld a oes trosedd wedi ei chyflawni yno o dan y Ddeddf Meinwe Dynol.

‘Problem anferth’

Yn ôl y bargyfreithiwr Peter Murphy QC, mae cau’r marwdy yn creu anawsterau mawr.

Fe ddywedodd wrth bapur newydd y South Wales Echo fod adroddiad ar gyfer achos llofruddiaeth yn Llys y Goron Caerdydd heb gael ei gwblhau, am nad yw’r patholegydd ddim yn cael mynd i mewn i’r marwdy.

“Dyw’r patholegydd ddim yn gallu mynd mewn. Mae hynna yn achosi problem anferth, nid dim ond yn yr achos yma ond ym mhob ymchwiliad,” meddai.

Rhy gynnar i ddweud

Mae’n rhy gynnar i ddweud a oes trosedd wedi cael ei chyflawni yn y marwdy, meddai Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru wrth y papur newydd.

Mae marwdy’r ysbyty yn gwasanaethu Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed Powys, a Heddlu Sir Gaerloyw.

Ers i’r gwaharddiad ddod i rym, mae cyrff wedi bod yn cael eu harchwilio yn Ysbyty Llandochau, sy’n rhan o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Caerdydd a’r Fro.