Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i “achub” rhaglenni teledu Saesneg am Gymru.

O bob 2,000 o oriau o deledu sy’n cael eu darlledu yng ngwledydd Prydain, medden nhw, dim ond un awr sydd yn Saesneg ar gyfer Cymru.

Maen nhw’n dweud y gallai Cymru fod yn “anweledig” ar deledu cyn bo hir os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, gydag ITV yn torri eu cynnyrch Cymreig i’r bôn.

Roedd y Sefydliad yn ymateb i gais y Llywodraeth am farn am newyddion rhanbarthol ar deledu – ond, yn ôl y Sefydliad, mae angen gwneud mwy nag achub rhaglenni newyddion a materion cyfoes ITV.

Cymru’n diflannu o’r golwg

“Mae ar unrhyw gymdeithas aeddfed angen adlewyrchiad o’i democratiaeth, ei gweithgaredd, e diddordebau a’i thalentau ar ei phrif gyfrwng,” meddai Geraint Talfan Davies, cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig.

“Bydd y we a gwasanaethau ar-lein yn chwarae rhan fawr yn y dyfodol a bydd yn rhaid i ni fuddsoddi ynddyn nhw, ond mae’n rhy gynnar i gau’r gwasanaeth teledu traddodiadol.

“Bydd Cymru’n diflannu o’r golwg yn y cyfamser.”

Rhaglenni – o ddrwg i waeth

Mae’r Sefydliad wedi seilio’i farn ar ffigurau gan y corff cadw llygad Ofcom:

Yn 2008, cafodd 2,438,495 awr o deledu eu darlledu ym Mhrydain, a dim ond 2,081 o’r rheiny oedd yn rhaglenni Saesneg ar gyfer cynulleidfa Gymreig.

Ers 2008, meddai’r Sefydliad, mae lefel cynhyrchu rhaglenni ar gyfer Cymru wedi “lleihau eto yn dilyn toriadau i gynnyrch ITV Wales ym mis Ionawr eleni a gostyngiadau pellach gan BBC Cymru.”