Mae awdurdod addysg leol Pen y Bont ar Ogwr wedi dweud fod mwy o oruchwylwyr yn mynd i fod wrth fynedfa Ysgol Gymraeg Bro Ogwr o hyn ymlaen, ar ôl i fachgen pedair oed fynd ar goll ar ei ffordd i’r ysgol ddoe.

Roedd Ieuan Morse wedi cael ei roi ar y bws ysgol ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf gan ei dad Robert Morse ond cafodd ei ddarganfod gan yr heddlu yn crwydro’r strydoedd ar ôl cerdded hanner milltir a chroesi ffordd brysur.

Dyw hi ddim yn glir eto a aeth y bachgen ar goll o dir yr ysgol, ynteu a oedd wedi crwydro yn syth ar ôl dod oddi ar y bws.

“Sioc”, meddai’r tad

Dywedodd Robert Morse, 28, a’i bartner Rebecca Williams, 29, eu bod nhw wedi cael “sioc” pan ddaeth yr heddlu at y drws gyda’u mab.

“Daeth yr heddlu at y drws a gofyn pam bod Ieuan wedi ei adael ar ei ben ei hun. Fe ges i sioc am fy mod i wedi ei roi o ar y bws fy hun,” meddai Robert Morse wrth bapur newydd y South Wales Echo.

Hebryngwyr

Dywedodd awdurdod addysg leol Pen y Bont ar Ogwr eu bod nhw’n trafod gyda llywodraethwyr ysgol i ddarganfod beth ddigwyddodd.

“Y drefn ar gyfer plant yn cyrraedd yr ysgol ar fws yw bod hebryngwyr yn sicrhau bod disgyblion yn mynd mewn i adeilad yr ysgol cyn i’r bws adael.”

Doedd yr awdurdod addysg ddim yn fodlon dweud a oedd Ieuan Morse wedi cyrraedd yr ysgol yn saff heddiw.