Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a fydd yr Etholiad Cyffredinol yn colli ei sbarc os nad yw’r pledleisiau yn cael eu cyfri ar y noson…

Mae saith o gynghorau Cymru wedi dweud eu bod nhw’n ystyried cyfri pleidleisiau ar y dydd Gwener yn hytrach na noswaith yr Etholiad Cyffredinol.

Mae cynghorau Ynys Môn, Caerdydd, Conwy, Sir Fynwy, Sir Benfro, Torfaen a Wrecsam wedi dweud na fyddan nhw o reidrwydd yn cyfri ar y nos Iau.

Mae cyngor Newcastle upon Tyne yn Lloegr hefyd eisoes wedi cadarnhau y bydden nhw’n cyfri ar y dydd Gwener, ac mae nifer o rai eraill yn bygwth gwneud yr un fath.

Fe allai’r newid, pe bai’n cael ei fabwysiadu gan gynghorau ledled Prydain, arwain at ddisgwyl lot hirach i weld pwy sydd wedi ennill mewn etholiad.

Mae Caerdydd, er enghraifft yn cynnwys pedair sedd seneddol ac o leia’ dair o’r rheiny yn debyg o fod yn glos. Yn draddodiadol, Wrecsam yw un o’r seddi cynta’ yng Nghymru i gyhoeddi’r canlyniad.

Mae yna bryder go iawn y bydd y newid yn tynnu unrhyw sbarc allan o noson sydd eisoes wedi colli ei hapêl i lawer o etholwyr.

Yn oes newyddion 24 awr, noson yr etholiad yw’r unig adeg y mae gwleidyddiaeth yn symud yn ddigon cyflym i ddal sylw mwyafrif o bobol.

Byddai holl ddrama’r noson – yr ailgyfrif, y canlyniadau annisgwyl, y gwleidyddion blinedig ac emosiynol – yn cael ei golli wrth iddo gael ei lusgo allan dros ddau ddiwrnod.

Fe allai hefyd danseilio teimlad y cyhoedd bod pob pleidlais yn cyfri. Pe bai’r Torïaid yn cael eu datgan yn enillwyr cyn i bleidleisiau pobol Newcastle upon Tyne hyd yn oed gael eu cyfri, a fyddai pobol y ddinas yn teimlo bod eu pleidlais nhw wir yn bwysig?

A meddyliwch am y gwleidyddion a’r newyddiadurwyr druan. Mae’n ddigon drwg eu gorfodi nhw i aros ar eu traed drwy’r nos ar ddiwrnod yr etholiad. Petai’r rhai seddi yn gohirio’r cyfri ac yn ymestyn pethau am ddiwrnod cyfan arall fe fydden nhw fel sombiaid erbyn y diwedd.

Ac a oes unrhyw un wedi ystyried y goblygiadau o ran twyll etholiadol? Byddai’r bocsiau llawn pleidleisiau yn eistedd heb eu cyffwrdd drwy’r nos, gan gynyddu’r siawns o dwyllo – neu o leiaf ddrwgdybiaeth o hynny.

Gobeithio y bydd cynghorau Ynys Môn, Caerdydd, Conwy, Sir Fynwy, Sir Benfro, Torfaen a Wrecsam yn ailystyried.

Fel arall bydd rhaid i ni ystyried dechrau rhoi fy miniau allan y diwrnod ar ôl iddyn nhw gael eu casglu, mewn protest.