Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi cael caniatâd i ddod o hyd i ymosodwr newydd er mwyn hybu ymgyrch y clwb yn y Bencampwriaeth.

Gyda Ross McCormack a Jay Bothroyd wedi eu hanafu, mae rheolwr yr Adar Glas yn awyddus i arwyddo ymosodwr ychwanegol i roi mwy o ddewis yn y llinell flaen.

Blaenoriaeth Dave Jones yw ymosodwr mawr a chorfforol er mwyn cefnogi Bothroyd.

Mae’r ffenestr trosglwyddiadau brys wedi bod ar agor ers dydd Mawrth, ac mae Caerdydd yn edrych ar y posibiliadau.

“Mae angen i ni arwyddo ymosodwr mawr i gryfhau’r garfan, ac mae angen gwneud hynny cyn gynted ag sy’n bosib”, meddai Cadeirydd y clwb, Peter Ridsdale.

Vokes

Un opsiwn sydd ar gael i Gaerdydd yw ymosodwr Cymru a Wolves, Sam Vokes.

Mae rheolwr Wolves, Mick McCarthy wedi dweud bod angen i Vokes chwarae’n gyson ac y bydd yn cael gadael y clwb ar fenthyg.

Ond bydd rhaid i Gaerdydd symud yn gyflym i’w arwyddo, gan fod Derby, Newcastle a Middlesborough wedi dangos diddordeb hefyd.