Mae’r Gymdeithas Ryngwladol Ffederasiynau Athletau (IAAF) wedi rhybuddio yn erbyn gwrando ar adroddiadau o Awstralia sy’n awgrymu bod y seren 800 metr Caster Semenya yn gymysg ei rhyw.

Mae papur newydd y Sydney Daily Telegraph yn honni bod profion yn dangos bod gan y ferch 18 oed nodweddion rhywiol gwrywaidd a benywaidd – roedd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno i’r Gymdeithas heddiw.

Roedd yr IAAF wedi comisiynu prawf rhyw ar yr athletwraig o Dde Affrica wedi iddi ddangos cynnydd mawr cyn Pencampwriaeth y Byd ym Merlin fis diwethaf.

Fe gipiodd hi’r fedal aur yn y ras 800m yno, ddwy eiliad o flaen ei gwrthwynebydd agosa’, Janeth Jepkosgei o Kenya.

Ddim yn swyddogol

Dywedodd yr IAAF nad oedd yr adroddiadau yn y wasg yn Awstralia yn ddatganiad swyddogol gan y gymdeithas.

“Rydym ni wedi derbyn y canlyniadau o’r Almaen, ond fe fydden nhw nawr yn cael eu hasesu gan grŵp o arbenigwyr.

“Fe fyddwn ni’n cwrdd yn breifat gyda’r athletwraig i drafod a oes angen cymryd camau pellach.”

“Jôc” meddai Semenya

Datgelwyd eisoes fod gan Caster Semenya lefelau tair gwaith yn uwch o destosteron yn ei chorff na merch arferol.

Dywedodd Caster Semenya wrth gylchgrawn You De Affrica ei bod hi’n gweld y cwbl fel “jôc” ac nad yw’n ei gofidio. “Mae Duw wedi fy ngwneud i’r ffordd ydw i ac rydw i’n derbyn fy hun,” meddai.