Mae disgwyl y bydd adroddiad am drafferthion cwmni ceir MG Rover yn datgelu fod pedwar dyn busnes wedi tynnu £40 miliwn ohono.

Fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach heddiw ond mae’r Swyddfa Dwyll Ddifrifol wedi penderfynu eisoes i beidio â dod ag achos llys yn erbyn y ‘Phoenix Four’.

Nhw oedd wedi creu consortiwm i brynu’r cwmni am £10 gan BMW ac fe roddodd y Llywodraeth fenthyciad o £100 miliwn i’w helpu.

Er hynny, fe aeth y cwmni i’r wal eto yn 2005 ac fe gollwyd miloedd o swyddi wrth i’w ffatri yn Longbridge gau. Bellach, mae cwmni o China yn cynhyrchu ceir MG yno, ond gydag ychydig gannoedd o weithwyr.

Roedd y pedwar dyn busnes wedi cymryd cyflogau a thaliadau pensiwn mawr o’r cwmni a’r gobaith yn awr yw y bydd cyhoeddi’r adroddiad yn agor y drws i roi taliadau iawndal i’r gweithwyr.

Mae’n debyg fod yr adroddiad ei hun wedi costio £16 miliwn.