Mae’n bosib y bydd Hamid Karzai yn aros yn Arlywydd Afghanistan, er bod amheuon mawr am degwch yr etholiad yno.

Fe fyddai angen i 400,000 o bleidleisiau gael eu dileu i orfodi ailetholiad – hyd yn hyn mae’r canlyniadau mewn 83 o orsafoedd wedi cael eu gwrthod.

Yn ôl y comisiwn rhyngwladol sy’n ystyried cwynion am yr etholiad, roedd tystiolaeth sylweddol o dwyll yn y rheiny, a’r rhan fwya’ mewn ardaloedd lle’r oedd Hamid Karzai yn gry’.

Ymhlith y problemau, roedd achosion o gam-gyfri’ pleidleisiau ac o ddefnyddio rhifau pleidleisio ffug.

Ar hyn o bryd, mae gan Hamid Karzai fwy na 54% o’r bleidlais – mae’n rhaid iddo gael mwy na 50% i osgoi etholiad arall.

Yn ôl ei brif wrthwynebydd, Abdullah Abdullah, fe fyddai canlyniad diffygiol yn “rysáit ar gyfer ansefydlogrwydd yn y wlad”.