Fe fydd llanc 18 oed yn cael ei ddedfrydu heddiw am lofruddio bydwraig ganol oed a roddodd loches iddo.

Roedd David Matthews o Gaerffili wedi pledio’n euog yn Llys y Goron Casnewydd i lofruddio Susan Williams, 58 oed, ym mis Chwefror eleni.

Roedd David Matthews yn ddigartref ar ôl ffraeo gyda’i gariad ac roedd Susan Williams wedi rhoi lle iddo gysgu’r nos.

Yn ôl yr heddlu, does dim gwybodaeth glir am yr hyn ddigwyddodd, am fod David Matthews yn gwrthod datgelu’r manylion.

Ond mae’n ymddangos fod Susan Williams wedi ei ddal yn ceisio dwyn eiddo a bod yr ymosodiad, yn ôl yr heddlu, yn un “dychrynllyd”.