Fe fydd troellwyr Morgannwg yn gobeithio dilyn esiampl eu gwrthwynebwyr heddiw ar ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Essex yng Nghaerdydd.
Fe lwyddodd troellwr y Saeson, Danish Kaneria, i gymryd saith wiced wrth i Forgannwg gyrraedd cyfanswm parchus o 311.
Eu seren nhw oedd Gareth Rees, a gafodd 122 o rediadau, i ddathlu’r ffaith ei fod wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r sir hyd at 2012.
Fe gafodd gymorth da gan dri batiwr ar y ffordd – dechrau sionc gyda Mark Cosgrove yn mynd â Morgannwg bron at y 100, Michael Powell yn ei helpu i gyrraedd y 150 ac wedyn Jamie Dalrymple yn mynd â’r sir heibio i’r 200.
Fe ddaeth ychydig o chwalfa wedyn, gyda thair wiced yn mynd o fewn 20 rhediad, ac fe gafodd Gareth Rees ei hun ddihangfa – ar 107 fe ddywedodd y dyfarnwr ei fod goes-o-flaen … cyn newid ei feddwl a’i alw’n ôl.
• Yn ogystal â Rees, fe gyhoeddodd Morgannwg eu bod wedi ail-arwyddo nifer o chwaraewyr, gan gynnwys y troellwr Dean Cosker a’r batiwr Tom Maynard.