Mae cyn Ysgrifennydd Cymru Ron Davies yn credu y gallai Plaid Cymru gymryd lle y Blaid Lafur yn blaid wleidyddol fwya’ Cymru.
Gyda chefnogaeth y Blaid Lafur yn dirywio, mae’r cyn Aelod Cynulliad a Seneddol Llafur yn credu y gallai Plaid Cymru fanteisio ar y sefyllfa a dod i reoli gwleidyddiaeth Cymru yn y ganrif hon.
“Rwy’n credu y gallai’r unfed ganrif ar hugain i Plaid fod fel yr oedd yr ugeinfed ganrif i’r Blaid Lafur”, meddai Ron Davies.
Fe ddywedodd Ron Davies, sy’n gynghorydd annibynnol yng Nghaerffili erbyn hyn, bod y pleidleiswyr wedi colli ffydd yn y Blaid Lafur oherwydd y dirwasgiad a threuliau ASau.
Mae e’ hefyd yn credu bod creu Llafur Newydd wedi “dinistrio” hen wreiddiau’r blaid.
Mae cyn Llywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley wedi dweud ei fod am weld Ron Davies yn dychwelyd i Fae Caerdydd fel Aelod Cynulliad tros Blaid Cymru.
Cefndir – Proffwydoliaeth yn dod yn wir?
Hyd yn oed yn ei ddyddiau gyda’r Blaid Lafur, roedd Ron Davies wedi ei rhybuddio hi fod chwalfa yn bosib.
Roedd yn un o’i ddadleuon tros gael pleidleisio cyfrannol yn y Cynulliad – fe fyddai hynny’n arbed plaid fel Llafur rhag colli grym yn llwyr.
O dan system ‘dim ond y cynta’ sy’n ennill’, mae’n haws i un blaid dra-arglwyddiaethu ond hefyd yn haws iddi golli grym yn sydyn.
Llun – Darren Wyn Rees – Trwydded GNU