Mae cwmni Corus yn paratoi i ail danio ffwrnais yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot – arwydd, meddai rhai arbenigwyr, fod yr economi’n gwella.

Daw hyn ddeng mis ar ôl i’r cwmni gau Ffwrnais Pedwar oherwydd diffyg galw – bellach, medden nhw, mae archebion wedi cynyddu eto.

Roedd Corus eisoes wedi dweud eu bod yn ail ddechrau cynhyrchu ar eu safle yn Llanwern ger Casnewydd.

“Bydd ail agor y ffwrnais yn rhoi mwy o hyblygrwydd i Corus a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid”, meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Fe fydd hefyd yn helpu’r cwmni i gymryd mantais o gyfleoedd busnes y maen nhw am ymateb iddyn nhw.”