Rhoi’r bai yn llwyr ar Lywodraeth yr Alban a wnaeth y Prif Weinidog Gordon Brown pan gwynodd Arlywydd yr Unol Daleithiau am y penderfyniad i ryddhau bomiwr Lockerbie.

Fe ddaeth hi’n amlwg neithiwr fod Barack Obama wedi mynegi ei “siom” am y penderfyniad mewn galwad ffôn 40 munud gyda Rhif 10 Downing Street – y troi cynta’ iddo roi ei farn yn uniongyrchol i Gordon Brown.

O ochr America y daeth yr wybodaeth am y drafodaeth am Lockerbie. Fe ddywedodd Downing Street wedyn fod y Prif Weinidog wedi mynnu mai Llywodraeth yr Alban oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i ryddhau Abdulbaset al-Megrahi a’i yrru yn ôl gartref i Libya.

Er hynny, mae’r amheuon yn parhau fod y cyfan yn rhan o drafodaethau a chytundebau masnachol rhwng gwledydd Prydain a Libya.

Holi Jack Straw

Un o’r elfennau allweddol yn hynny oedd y penderfyniad i gynnwys al-Megrahi mewn cytundeb trosglwyddo carcharorion rhwng y ddwy wladwriaeth – mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Jack Straw, wedi cydnabod ei fod ef yn rhan o hynny.

Dyna pam y bydd Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin yn cynnal ymchwiliad i’r mater ac yn holi Jack Straw ei hun.

Croeso i al-Megrahi

Yn y cyfamser, fe gafodd Abdulbaset al-Megrahi groeso mawr gan 40 o aelodau seneddol Affricanaidd yn Libya.

Roedden nhw yno i ddathlu dengmlwyddiant Undeb Affrica ac fe ddywedon nhw fod al-Megrahi wedi dioddef o “anghyfiawnder rhyngwladol”.

Llun: AP Photo