Mae’r Ysgrifennydd Masnach, Peter Mandelson, yn dweud ei fod yn fodlon gyda’r fargen i werthu cwmni ceir Vauxhall i fusnes o Ganada.

Ond dyw hynny ddim wedi tawelu ofnau’r undebau a’r gweithwyr am ddyfodol hyd at 5,500 o swyddi yng ngwledydd Prydain – gan gynnwys tua 300 o weithwyr o Ogledd Cymru.

Maen nhw’n gweithio yn Ellesmere Port ger Lerpwl, un o’r ddwy ffatri sydd gan Vauxhall yn Lloegr.

Pedwar cyfarfod

Fe ddywedodd Peter Mandelson ei fod wedi cael pedwar cyfarfod wyneb yn wyneb gyda phenaethiaid cwmni Magna sydd wedi prynu cwmni Vauxhall ac Opel yn yr Almaen.

Roedd yn fodlon, meddai, gyda’r addewidion am eu hymrwymiad i gadw’r ddwy ffatri Brydeinig, ond mae Magna wedi sôn am golli 3,000 o swyddi ar draws Ewrop.

Gan mai’r Almaen oedd wedi arwain y trafodaethau rhwng Magna a’r perchnogion presennol, General Motors, mae pryder y bydd ffatrïoedd yno yn cael mantais annheg.

“Ansicrwydd”

Yn ôl Tony Woodley, cyd-Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unite, mae’r ansicrwydd tros ddyfodol cwmni Vauxhall ar ben, ond mae’r ansicrwydd am swyddi’n parhau.

Roedd gweithwyr wedi gobeithio y byddai General Motors yn newid eu meddwl ac yn dal eu gafael yn Vauxhall.