Fe fydd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn addo y byddai Plaid Cymru yn gwneud pethau’n wahanol i’r pleidiau mawr Prydeinig.

Yn ei araith fawr yng nghynhadledd y Blaid yn Llandudno, fe fydd yn annog pleidleiswyr Cymru i droi eu cefn ar y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol.

Yn ôl yr wybodaeth sydd wedi cael ei gollwng ymlaen llaw, mae disgwyl hefyd y bydd yn pwysleisio fod Plaid Cymru yn fwy na phlaid i siaradwyr Cymraeg.

Mae hynny’n rhan o ymgais i geisio dangos fod y Blaid yn wahanol i’r darlun traddodiadol sydd gan rai ohoni – gan gynnwys y syniad ei bod “ychydig yn eithafol”.

“Siomi”

Gydag etholiadau ar gyfer San Steffan yn sicr o ddod yn ystod y misoedd nesa’, mae’r Blaid yn ceisio adeiladu ar y gefnogaeth y mae’n ei chael yn etholiadau’r Cynulliad a throsglwyddo hynny i Etholiad Cyffredinol.

Y Blaid yw’r gynta’ o’r pleidiau mawr yng Nghymru i gynnal ei chynhadledd ac fe fydd yn ceisio manteisio ar y ffaith ei bod wedi dod trwy sgandal lwfansau gwleidyddion heb ormod o broblemau.

Yn ei araith heddiw, felly, fe fydd Ieuan Wyn Jones yn cyhuddo Llafur a’r Ceidwadwyr o siomi pobol a bod hyder yn y system wleidyddol wedi dirywio.

“Plaid i bawb”

Dyma rai o’r dyfyniadau o’r araith sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw:

“Mae’n rhaid i ni ddweud wrth bobol ein bod yn blaid i bawb yng Nghymru, beth bynnag eu hiaith, o ble bynnag y maen nhw’n dod neu ble bynnag y maen nhw’n byw.

“Rydan ni yn wahanol i’r gweddill, ond mae hynny oherwydd ein bod yn ffyddlon i bobol Cymru – pwy bynnag ydyn nhw – ac am ein bod yn credu mewn creu dyfodol mwy teg a llewyrchus i ddinasyddion.”