Mae gan Brif Gwnstabl newydd Heddlu Gogledd Cymru bedair blynedd o brofiad o weithio ar lefel uchel yng Nghymru.
Fe fu Mark Polin, sydd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Swydd Caerloyw, yn Uwch-arolygydd gyda Heddlu Gwent, gan fod yn gyfrifol am ardal Glyn Ebwy ac wedyn Caerffili.
Mae’r dyn 46 oes sy’n cymryd lle Richard Brunstrom wedi cael ei alw yn “gopar da iawn” gan Gadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, Ian Roberts. Fe gafodd ei benodi ddoe ar ôl i Awdurdod yr Heddlu gyfweld â phedwar o ymgeiswyr.
Fe ddywedodd neithiwr ei fod am roi ei bwyslais ar adeiladu ar enw da Heddlu’r Gogledd ac yn arbennig ar gynyddu ymddiried a hyder yn yr heddlu ymhlith y cymunedau.
“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, aelodau Awdurdod yr Heddlu a phartneriaid i wneud yn siŵr fod Gogledd Cymru yn saffach fyth ar gyfer pobol sy’n gweithio ac yn byw yn yr ardal neu’n ymweld â hi.”