Mae llywydd FIFA, Sepp Blatter, wedi beirniadu Cymdeithas Bêl Droed Cymru am atal chwaraewyr Cymru rhag ymuno â thîm Olympaidd Prydain.
“Rwy’n credu mai dwli yw atal rhywun rhag chwarae yn y tîm Prydeinig”, meddai ar ymweliad â de Cymru i agor cyfleusterau ymarfer newydd ym Mro Morgannwg.
Dyw Cymru, ynghyd â’r Alban a Gogledd Iwerddon, ddim yn fodlon i’w chwaraewyr gystadlu fel rhan o dîm Prydeinig, oherwydd y pryder y gallai hyn danseilio ei statws o fewn y gêm.
Mae Blatter wedi gwadu y byddai hyn yn cael unrhyw effaith ar eu statws rhyngwladol. Ond mae’r gwledydd Celtaidd yn parhau i wrthod y syniad.
Caerdydd ac Abertawe
Fe ddywedodd y Llywydd hefyd y dylai Caerdydd ac Abertawe gael yr hawl i chwarae yng yng nghystadlaethau Ewrop – er eu bod nhw’n chwarae yn Lloegr.
Ar hyn o bryd mae’n ansicr beth fyddai’n digwydd pe bai’r clybiau Cymreig yn ennill lle yn Ewrop trwy ennill y Cwpan FA neu Uwch Gynghrair Lloegr ond, yn ôl Sepp Blatter, mae digon o enghreifftiau o glybiau o un wlad yn chwarae mewn gwlad arall.
Mae llywydd Fifa yn credu dylai Caerdydd ac Abertawe gael yr hawl i chwarae yn Ewrop drwy gystadlaethau Lloegr.
Newid cymdeithas bêl droed
Yn ôl y Western Mail, mae cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale wedi dweud bod Cymdeithas Bêl Droed Lloegr wedi eu gwahodd i ymuno a’u cymdeithas hwy.
Mae Ridsdale wedi dweud bod y clwb yn ystyried y cynnig.
Ond dywedodd Blatter nad oedd yn gweld angen i Gaerdydd ac Abertawe ymuno a Chymdeithas Pêl Droed Lloegr.
“Mae’n rhaid i’r cymdeithasau Prydeinig ymdrechu i ddatrys problemau ymysg ei gilydd”, meddai.