Bydd cyn-delynores y Tywysog Charles, sy’n wreiddiol o Lyn Ebwy, yn ymddangos gerbron llys yn yr Hydref, ar ôl pledio’n ddieuog i sawl achos o dorri i mewn a dwyn.

Chwaraeodd Jemima Phillips, 27 oed, ym mhriodas y Tywysog a Duges Cernyw ac ym mhriodas ŵyr y Frenhines, Peter Williams.

Mae hi’n gwadu cymryd waledi, ffonau symudol a gitâr yn ystod y lladradau honedig.

Yn Llys y Goron Caerloyw heddiw, fe blediodd y delynores a William Davies, 40 oed o Cheltenham, yn ddieuog i bob cyfrif yn eu herbyn.

Fe wnaeth y delynores bledio’n euog i gyhuddiad arall o dwyll, ar ôl ceisio tynnu arian o gymdeithas adeiladu’r Nationwide dan yr enw Heather Gilmore.

Cafodd Jemima Phillips ei rhyddhau ar fechnïaeth.