Mae cynllunwyr Caerfyrddin wedi cymeradwyo cais i osod hen byst rygbi Parc y Strade ar y ffordd i mewn i dref Llanelli.

Gwnaethpwyd cais i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ganiatâd cynllunio i roi’r pyst rygbi ar gylchfan Berwick sydd ger stadiwm newydd y Scarlets.

Fe fydd y pyst yn cael eu rhoi yng nghanol ynys yng nghanol y gylchfan, wedi eu peintio’n wyn a choch yn lliwiau’r Scarlets.

Bydd paneli gwastad metel mewn siâp sosbenni ar ben bob postyn, fel oedd ym Mharc y Strade.