Mae grŵp o newyddiadurwyr yn Afghanistan wedi beio milwyr rhyngwladol am farwolaeth cydweithiwr.

Fe gafodd cyfieithydd y newyddiadurwr Stephen Farrell ei ladd yn ystod cyrch achub gan NATO, wedi i’r ddau gael eu herwgipio yng ngogledd talaith Kunduz, ddydd Sadwrn.

Mae newyddiadurwyr yn Afghanistan dweud bod y milwyr wedi ymosod heb angen ac maen nhw wedi bod yn gosod blodau ar fedd Sultan Munadi heddiw.

Roedd Clwb Cyfryngau Afghanistan hefyd wedi beirniadu lluoedd NATO am adael corff Sultan Munadi ar ôl ac wedi condemnio’r Taliban am herwgipio’r ddau.

Mae Stephen Farrell wedi ei feirniadu am fynd i’r ardal lle cafodd ei herwgipio. Mae’n debyg bod heddlu Afghanistan ac arweinwyr lleol wedi’i rybuddio na ddylai deithio yno am ei fod yn rhy beryglus.

Cyhoeddwyd heddiw gan 10 Stryd Downing mai’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Bob Ainsworth, a’r Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, oedd wedi caniatáu’r cyrch – ac nid y Prif Weinidog.