Mae archfarchnad Asda yn bwriadu creu tua 700 o swyddi tymhorol newydd yng Nghymru, meddai llefarydd ar ran yr archfarchnad.

Dywedodd y llefarydd fod y swyddi’n dod yn sgil ymrwymiad a wnaethon nhw fis Ionawr diwetha’ i greu 7,000 o swyddi newydd erbyn diwedd y flwyddyn.

Yn ogystal â’r 7,000, dywedodd y llefarydd y byddan nhw’n creu 10,000 o swyddi tymhorol newydd, dros gyfnod y Nadolig, ledled Prydain.

Fe fydd y 10,000 hyn yn dyblu nifer y gweithwyr Nadolig sydd gan ASDA i 20,000.

“Mae ein swyddi tymhorol yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr yn ogystal â phobol sy’n chwilio am waith rhan amser tros y Nadolig. Dyma gyfnod prysuraf y flwyddyn i Asda,” meddai eu llefarydd, Andy Clarke.