Mae dyn wedi cael carchar am oes am lofruddio’i bartner – a hynny am iddi ddweud ar wefan gymdeithasol Facebook ei bod hi’n berson sengl.

Penderfynodd y rheithgor fod Brian Lewis, 31, wedi lladd Hayley Jones ar ôl ffrae yng nghartref y cwpwl yn Pritchard Terrace, Tredegar Newydd, yn sir Caerffili, ar 12 Mawrth eleni.

Roedd y ddau wedi bod gyda’i gilydd ers 13 o flynyddoedd, ond clywodd y llys fod y berthynas wedi dechrau dirywio oherwydd trafferthion ariannol wedi i Brian Lewis golli ei waith.

Clywodd y llys hefyd fod Brian Lewis yn rhwystredig fod Hayley Jones yn treulio llawer o amser ar y wefan gymdeithasol Facebook a bod y llofruddiaeth wedi digwydd ar ôl iddi hi newid ei disgrifiad ar Facebook, o ‘briod’ i ‘sengl’.

Cyllell

Roedd Brian Lewis wedi gwthio blaen cyllell drwy sach gysgu a dillad Hayley Jones, pan oedd hi’n gorwedd ar soffa ond roedd yntau’n dweud mai dim ond ceisio “cyffwrdd” y sach gysgu yr oedd.

Roedd hefyd wedi ei thagu, ond fe ddywedodd yntau ei fod wedi dod yn ymwybodol bod ei ddwylo am wddw Hayley Jones ar ôl i un o’i blant alw arno a’i fod wedi ei gollwng.

Fe fydd rhaid i Brian Lewis aros yn y carchar am o leia’ 14 mlynedd.