Mae aelodau Band Pres fu’n rhan o ddathliadau yn Libya i nodi deugain mlynedd ers i’r Cyrnol Gaddafi ddod i rym, wedi dod yn ôl i Gymru.
Maen nhw’n ddiedifar iddyn nhw fynd yng nghanol y dadlau gwleidyddol dros ryddhau bomiwr Lockerbie.
“Roedd yn anrhydedd i gael bod yno ac i gael gweld ochr arall i’r straeon sydd fel arfer yn dod mas ynglŷn â’r wlad,” meddai Marc Scaife, Cadeirydd Band Pres Porth Tywyn.
“Doedden ni ddim yn ymwybodol o gwbl o’r trafod sydd wedi bod yn mynd ymlaen fan hyn tra’n bod ni i ffwrdd.”
Bu’r band yn rhan o orymdaith ryngwladol ar y Sgwâr Gwyrdd ynghanol y brifddinas Tripoli o flaen Gaddafi ac arweinwyr eraill Libya.
“Mae ambell un wedi gwneud y sylw ein bod yn pawns mewn gêm wleidyddol ac yn cael ein defnyddio. Dw i’n gwrthod hwnna’n llwyr,” mynna Marc Scaife.
Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Medi 10