Gyda chystadleuaeth y Cwpan Ryder yn cael ei chynnal yng Nghymru y flwyddyn nesaf, mae golffwyr o Gymru yn dechrau codi safon eu chwarae.

Fe ddaeth Bradley Dredge o Dredegar yn ail mewn cystadleuaeth ragbrofol yn y Swistir yr wythnos ddiwethaf a heddiw mae Stephen Dodd o Gaerdydd wedi dechrau’n dda ym Mhencampwriaeth Mercedes-Benz yn Cologne.

Cafodd Dodd bedair pluen yn y saith twll cyntaf i’w roi ar y blaen – er na lwyddodd i gynnal y safon yn ail hanner ei rownd gyntaf.

Fe orffennodd ei rownd gynta’ dair ergyd o dan y safon – dair ergyd yn unig y tu ôl i’r Sais Chris Wood sy’n arwain ar hyn o bryd.