Mae disgwyl i brop y Llewod Adam Jones arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch yn fuan.

Roedd si ar led bod clybiau mawr yn Lloegr a Ffrainc yn fodlon cynnig arian mawr am y prop.

Ond mae cynrychiolwyr y chwaraewr rhyngwladol dros Gymru yn dweud bod trafodaethau’n parhau gyda’r Gweilch, ac maen nhw’n gobeithio y bydd cytundeb newydd yn cael ei arwyddo.

Ar hyn o bryd mae Jones yn gwella o anaf i’w ysgwydd ers yr ail brawf yn erbyn De Affrica dros yr haf.

Fe fydd Adam Jones yn colli nifer o gemau allweddol i’r Gweilch a Chymru dros y misoedd nesaf, ond mae disgwyl iddo ddychwelyd i chwarae yn y flwyddyn newydd.