Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Dai Young, wedi penderfynu gollwng Sam Norton-Knight o’r tîm i ddechrau yn erbyn Munster nos yfory.
Wedi perfformiad siomedig i’r Gleision yng ngêm gynta’r tymor yn erbyn Caeredin yr wythnos diwethaf, mae Young wedi penderfynu mai Ceri Sweeney fydd yn cael y crys rhif deg.
Fe fydd John Yapp, Rhys Thomas, Taufa’ao Filise a Deiniol Jones hefyd yn dychwelyd i’r tîm ymysg y blaenwyr.
Mae Leigh Halfpenny a Chris Czekaj yn dechrau ar yr esgyll unwaith eto, gyda Gareth Thomas a Dafydd Hewitt yn ganolwyr.
Mae’r Llew Andy Powell yn cael ei gynnwys ar y fainc ynghyd â Dafydd James.
Dechrau araf i’r tymor
Fe ddywedodd Dai Young ei fod yn rhwystredig i weld ei dîm yn dechrau’n araf un tymor ar ôl y llall.
“Y tymor diwethaf roedden ni’n wael iawn am dair gêm gynta’r tymor”, meddai Young.
“All neb chwarae ar eu gorau trwy’r tymor ond rhaid i ni wella.
“pan fyddwn ni’n chwarae ar ein gorau, fe ddaw pethau’n haws. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n bell o fod yn chwarae ein rygbi gorau”.
Carfan y Gleision
15 Ben Blair, 14 Leigh Halfpenny, 13 Gareth Thomas, 12 Dafydd Hewitt, 11 Chris Czekaj, 10 Ceri Sweeney, 9 Gareth Cooper.
1 John Yapp, 2 Rhys Thomas, 3 Taufa’ao Filise, 4 Deiniol Jones, 5 Paul Tito, 6 Mamma Molitika, 7 Robin Sowden-Taylor, 8 Xavier Rush.
Eilyddion- 16 Gary Powell, 17 Gareth Williams, 18 Scott Morgan, 19 Andy Powell, 20 Richie Rees, 21 Sam Norton-Knight, 22 Dafydd James.