Mae chwaraewr canol cae dylanwadol Abertawe, Ferrie Bodde wedi dweud ei fod yn fodlon arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.
Roedd ofnau y byddai’r Iseldirwr am adael ar ôl iddo ddenu sylw nifer o glybiau’r Uwch Gynghrair cyn iddo gael ei anafu y tymor diwetha’.
Roedd y rheiny’n cynnwys Wigan a Bolton ac roedd Bodde ei hun wedi awgrymu y byddai’n hoffi chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
Fe gymerodd Bodde gam arall tuag at ddychwelyd i’r tîm cyntaf neithiwr, wrth iddo chwarae i’r ail dîm yn erbyn Swindon.
Hapus gydag Abertawe
“Rwy’ wastad wedi dweud fod Abertawe yn glwb da i mi, ac rwy’n hapus gyda’r sefyllfa,” meddai Bodde, a ddaeth i’r clwb o dan y rheolwr blaenorol, Roberto Martinez. Ond mae’n dweud ei fod yn hapus gyda’r rheolwr newydd hefyd.
“Mae Paulo Sousa wedi dweud fy mod yn rhan bwysig o’i gynlluniau, ac rwy’n hapus iawn gyda hynny.”
Mae Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi cadarnhau bod y clwb yn gobeithio y bydd Ferrie Bodde yn arwyddo cytundeb newydd yn fuan.