Fe lwyddodd rhai o staff llongau fferi Stena yng Nghaergybi i ennill jacpot loteri o £2.2miliwn, yn ôl papur y Bangor and Anglesey News.
O ganlyniad, mae’n debyg bod y 25 aelod staff a oedd yn rhan o’r fenter wedi ennill £75,000 yr un yn y gystadleuaeth ar Awst 26.
Mae’n debyg fod y staff i gyd yn gweithio ar fferi gyflym yr HSS Explorer sy’n hwylio rhwng Caergybi a Dun Laoghaire, Iwerddon.
Doedd Stena Line yn fodlon trafod y mater gyda Golwg360 nac yn fodlon caniatáu cyfweliad â’r aelodau staff lwcus gan fod y gweithwyr yn dymuno aros yn ddienw, meddai’r cwmni.