Mae sïon fod un o gymeriadau mwya’ dadleuol y Blaid Lafur yn ystyried sefyll am sedd Arfon yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Dyw’r Blaid Lafur ddim wedi dechrau’r broses ffurfiol eto i ddewis ymgeisydd i gymryd lle Martin Eaglestone i wrthwynebu Aelod Seneddol yr etholaeth, Hywel Williams o Blaid Cymru.
Ond mae llawer o siarad mewnol yn awgrymu y bydd David Taylor, sylfaenydd y wefan ‘Aneurin Glyndŵr’ yn ystyried rhoi cynnig arni.
Dywedodd David Taylor wrth Golwg360 nad oedd am roi sylw ar y mater. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilydd i’r Aelod Cynulliad Leighton Andrews.
Gyrfa ddadleuol
Aneurin Glyndŵr yw’r wefan a ddangosodd fideo yn portreadu’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, fel clown, ac arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne, fel fampir.
Bu’n rhaid i David Taylor ymddiheuro ym mis Ebrill ar ôl rhoi’r neges ‘You’ll never walk again’ ar Twitter, sy’n cael ei ddefnyddio gan rai o gefnogwyr Manchester United fel sarhad yn erbyn cefnogwyr Lerpwl yn dilyn trychineb Hillsbrough.
Dywedodd nad oedd yn ymwybodol bod gan y sylw unrhyw gysylltiad gyda trychineb Hillsbrough.