Mae gwraig sydd wedi cael eu dedfrydu i farwolaeth yn yr Unol Daleithiau wedi defnyddio’r Pedwerydd Plinth yn Sgwâr Trafalgar i apelio am ei rhyddid.
Cafodd Linda Carty, 50, ei dedfrydu i farwolaeth yn nhalaith Texas yn 2002, ar ôl i lys ei chael yn euog o helpu i herwgipio a llofruddio dynes 25 oed.
Gan ei bod wedi ei geni ar y gyn-drefedigaeth St Kitts, mae hi’n ddinesydd Prydeinig ac mae cyfreithwyr yng ngwledydd Prydain yn ymladd drosti.
Cafodd llun cardfwrdd maint llawn o Linda Carty yn cael ei osod ar y Plinth, a chwaraewyd neges wedi ei recordio ganddi yn galw ar gyhoedd a llywodraeth gwledydd Prydain i’w hachub rhag derbyn chwistrelliad y gosb eithaf.
Mae ymgyrchwyr ar ei rhan yn honni fod yr achos yn ei herbyn yn ddiffygiol, ac mae hi’n mynnu ei bod hi’n ddieuog. Mae’n dweud fod diffynyddion eraill wedi ei fframio oherwydd ei gwaith ar ran asiantaeth wrth-gyffuriau’r Unol Daleithiau.
Cwyno
Mae apêl Linda Carty yn llysoedd yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd, ac os na’ fydd hyn yn llwyddiannus, yn ôl ei chefnogwyr, fe all wynebu’r gosb eithaf o fewn misoedd.
Yn gynharach eleni, fe gwynodd Swyddfa Dramor Prydain wrth Lys Apêl yr Unol Daleithiau nad oedden nhw wedi cael gwybod yn syth fod Linda Carty wedi cael eu harestio yn 2001.
Honnodd y Swyddfa Dramor hefyd fod Linda Carty wedi derbyn cyngor cyfreithiol “aneffeithiol”.
Y plinth
Gwaith yr arlunydd modern, Anthony Gormley, yw’r Plinth. Mae 2,400 o bobol yn cael sefyll, un ar y tro am awr yr un, ar lwyfan bach yn Sgwâr Trafalgar, gan wneud a gwisgo beth fynnon nhw.
Y mis diwetha’, fe fu Cymro ar y plinth yn tynnu sylw at yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent y flwyddyn nesa’.