Mae llefarydd ar ran gwersyll gwyliau yng Ngogledd Cymru yn dweud mai ymwelwyr eraill oedd wedi tynnu lluniau o’r chwaraewyr pêl-droed Rio Ferdinand pan oedd yno.
Roedd Naomi Woodstock yn mynnu hefyd fod seren Manchester United a Lloegr wedi llogi un o’u carafanau a’i fod ef a’i deulu “hyd y gwyddon nhw” wedi aros yno.
Fe ddywedodd wrth Golwg360 ei fod wedi llogi un o garafanau “prestige” cwmni Haven Holidays yng ngwersyll Presthaven Sands ym Mhrestatyn ddiwedd Awst. Byddai hynny wedi costio £400 – cyflog ychydig funudau i’r amddiffynnwr.
“Fe gafodd amser braf iawn yma ac roedd yn glên iawn gydag ymwelwyr, yn arwyddo’i lofnod, cyn mynd ati i go-cartio,” meddai’r llefarydd. “Hyd y gwyddon ni, fe gysgodd yno hefyd.”
Aeth yn ei blaen i egluro, “nad ydyn ni wedi siarad â Rio Ferdinand” a bod “rhaid parchu preifatrwydd ymwelwyr”.
Dywedodd mai ymwelwyr ar y safle oedd wedi tynnu’r lluniau ohono a’u gyrru i’r cwmni ond gwrthododd gais i siarad â staff safle Presthaven Sands ym Mhrestatyn.