Fydd Gŵyl y Gwydir ddim yn diflannu dros erchwyn y dibyn dan don o ddyled, hyd yn oed os mai tenau fydd y dorf nos yfory yng Nghlwb y Legion yn Llanrwst.

Ond er mai dyma flwyddyn gynta’ yr ŵyl newydd, mae’r trefnydd yn eitha’ ffyddiog y daw ffans y Sîn Roc Gymraeg draw.

“Chafon ni ddim grant i gynnal yr ŵyl,” eglura Gwion Schiavone wrth sôn am y Gwydir.

“Ond efo lot o’r bandiau sy’n chwarae, rydan ni’n nabod nhw. Os ydi petha’n mynd yn hollol rybish, fysa bandiau’n fodlon cymryd llai o bres.

“Maen nhw’n deall mai gŵyl fach sy’n trio cael ei sefydlu ydi hi. Does neb wedi setio ffi masif.”

Bydd Gŵyl Gwydir yn cychwyn ar ddeuddydd o berfformiadau blaenllaw gan rai o artistiaid mwya’ cŵl y Sîn Roc Gymraeg dydd Gwener.

Bydd Euros Childs, Yr Ods, Mr Huw a’r Race Horses (dde) ymysg y bandiau a fydd diddanu’r dorf.

Cewch ddarllen mwy yn Y Babell Roc yn Golwg, Medi 10