Mae Iwan Bala wedi mentro i dir newydd gyda’i waith celf diweddaraf.

Mae teitl y casgliad, Tierra Incognita, yn cyfeirio at fapiau Canol Oesol a oedd yn defnyddio’r term pan nad oedd yn glir beth oedd enwau rhai darnau tir.

“Mae gan bawb dir anhysbys yn ei bywydau mae’n siŵr gen i,” meddai’r artist wrth Golwg, mewn cyfweliad arbennig.

“Ac yn aml, byddwn yn creu rhyw bluff mawr i roi’r argraff bod rhan ohonom yn cymryd rhyw siâp nad ydyw e ddim mewn gwirionedd.

“Fel y mapiau hynny o Galiffornia a oedd am flynyddoedd yn ei ddangos fel ynys am fod un dyn wedi ei gyfleu fel ynys ar un map a phawb wedi ei ddilyn am flynyddoedd wedi hynny.

“Ac mewn un ffordd wrth gwrs, mae hynny’n fetaffor, gan fod Califfornia yn ynys ar wahân.”

Bydd y gwaith newydd sbon i’w weld yng Nghanolfan Dewi Sant, Caerdydd ynghyd a gwaith rhai o fyfyrwyr celf Prifysgol y Drindod yng Nghaerfyrddin lle y mae Iwan Bala yn ddarlithydd.

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Medi 10